Product Added to your Cart
x

-------- OR --------

01758612223iechyd@outlook.com
0 items
SubTotal: £0.00
Checkout
About

    Sefydlwyd y cwmni yn 2005 drwy gyfuno Fferyllfa RJ Jones, Nefyn â Fferyllfa HL Taylor yn Llanbedrog. Ers hynny, mae’r cwmni wedi mynd o nerth i nerth.


    The company was established in 2005 with the amalgamation of R J Jones Pharmacy, Nefyn and H L Taylor Pharmacy in Llanbedrog. Since then, the company has grown from strength to strength.

    Fferyllfa R J Jones Pharmacy

    Yn 2007, bu i ni adleoli fferyllfa Nefyn i adeilad newydd sbon gyda man adwerthu agored newydd, fferyllfa fawr braf ac ystafell ymgynghori newydd, fodern. Aeth fferyllfa Nefyn ati wedyn i gynnig amryfal wasanaethau clinigol newydd ac yn 2009, cafodd ei chydnabod am y cyflawniad hwn pan ddyfarnwyd gwobr “Fferyllfa’r Flwyddyn” iddi gan Alliance Healthcare. Dilynwyd hyn gan wobrau eraill yn y blynyddoedd i ddilyn, yn cydnabod ein hymroddiad i yrru’r busnes yn ei flaen drwy gynnig y profiadau a’r gwasanaethau gorau posib i’n cleifion a’n cwsmeriaid

    In 2007 we relocated the Nefyn pharmacy to a brand new pharmacy building offering a bright new retail area, a large dispensary, and a new modern consulting room. The Nefyn pharmacy then engaged in offering numerous new clinical services and in 2009, was recognised for this achievement by winning the Alliance Healthcare “Pharmacy of the Year” award. This was followed by other awards in the following years in recognition of our dedication to drive forward the best possible experience and service to patients and customers.

    R J Jones Pharmacy


    Fferyllfa H L Taylor Pharmacy


    Yn 2015, bu i ni symud fferyllfa Llanbedrog i adeilad newydd arall pwrpasol gyda maes parcio cyfagos ar y ffordd brysur i Abersoch. Gallai’r fferyllfa fodern, braf hon bellach gynnig holl wasanaethau clinigol busnes newydd. Rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y busnes a nifer y cwsmeriaid yn y safle newydd hwn, a galluogodd yr adeilad newydd i ni ddarparu gwell amrediad o wasanaethau ehangach i’n cleifion. Cafodd hyn ei gydnabod yn 2016, pan enillom ni wobr “Fferyllfa Alphega’r Flwyddyn” yn y gynhadledd Brydeinig.

    In 2015 we relocated the Llanbedrog pharmacy to another modern custom-built premises with adjoining car park on the busy Abersoch road. This modern, bright pharmacy premises can could now provide all the offerings of a new clinically orientated business. We have seen a significant increase in the volume of business and customer numbers due to this relocation, and the new premises has enabled us to deliver a better and wider range of services to our patients. This was recognised in 2016 when we won the “Alphega Pharmacy of the Year” award in the UK conference.


    Iechyd

    Yn 2016, bu i ni agor siop fwyd iach ym Mhwllheli o'r enw “Iechyd”. Gwelsom gynnydd mewn galw a diddordeb ymysg ein cwsmeriaid o ran sut a beth roedden nhw’n ei fwyta ac yn ei ddefnyddio fel ychwanegion bwyd. Roedd gan bobl fwyfwy o ddiddordeb mewn bwydydd organig, heb glwten, fegan, cynhyrchion oedd yn ystyriol o’r amgylchedd a bwydydd o ansawdd oedd wedi’u cynhyrchu’n lleol. Mae pobl yn tueddu i symud oddi wrth fwydydd o ansawdd isel sy’n cael eu swmp gynhyrchu ac na ellir eu holrhain, ac yn symud tuag at ffynonellau bwyd mwy ystyriol. Ein dull gweithredu yn Iechyd yw darparu bwydydd ac ychwanegion o ansawdd uchel sy’n dangos ymwybyddiaeth o’r amgylchedd, ac mae i’w weld yn boblogaidd iawn.

    In 2016 we opened our health food shop in Pwllheli named “Iechyd”, which is the Welsh word for “Health”. We observed a demand and increasing interest amongst our customers in how and what they were eating and using as supplements. People were increasingly interested in organic foods, gluten free, vegan foods, environmentally friendly products, or just locally sourced high-quality foods. People are increasingly moving away from the mass produced, low quality, untraceable foods and moving to more thoughtful food sources. Our modus operandi at Iechyd has been about providing high quality, environmentally friendly foods, and supplements, and it is proving to be extremely popular.


    Fferyllfa D Powys Davies Pharmacy

    Yn 2017, bu i ni brynu Fferyllfa D Powys Davies ym Mlaenau Ffestiniog. Er ei bod eisoes yn fferyllfa brysur, roedd angen ei moderneiddio. Yn ystod 2017, aethom ati i adnewyddu’r eiddo’n llwyr ac erbyn hyn, mae gennym fan adwerthu golau braf sy’n cynnig llawer mwy o amrywiaeth o gynhyrchion, fferyllfa fawr fodern ac ystafell ymgynghori bwrpasol, sydd wedi ein galluogi i ddarparu nifer fawr o wasanaethau newydd i’n cleifion. Unwaith eto, cafodd y cyflawniad hwn ei gydnabod yn ddiweddar yng Ngwobrau Fferylliaeth Cymru yng Nghaerdydd, gyda’r fferyllfa’n ennill gwobr “Datblygiad Busnes Annibynnol y Flwyddyn”.

    In 2017 we purchased the D Powys Davies Pharmacy in Blaenau Ffestiniog. Whilst it was a busy pharmacy, it needed modernisation. Over the course of 2017 we undertook a full refit of the premises and by now we have a modern, brightly lit retail area offering a larger range of products, a spacious modern dispensary, and a custom-made consulting room that has enabled us to deliver a vast number of new services to our patients. Again, this achievement was rewarded recently in the Welsh Pharmacy Awards in Cardiff, with the pharmacy winning the “Independent Business Development of the Year” award.

     
    Yma yn Fferyllwyr Llŷn, ein gweledigaeth yw darparu gwasanaethau, meddyginiaethau, cyngor iechyd a chynhyrchion o’r ansawdd uchaf i’n cwsmeriaid a’n cleifion bob amser.

    At Fferyllwyr Llŷn, our mantra is to deliver the highest quality services, medicines, health advice, and products to our customers and patients always.